Talu eich bil Treth Gorfforaeth
Trosolwg
Bydd y dyddiad cau ar gyfer eich taliad yn dibynnu ar eich elw trethadwy.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Elw trethadwy hyd at £1.5 miliwn
Mae’n rhaid i chi dalu’ch Treth Gorfforaeth naw mis ac un diwrnod ar ôl diwedd eich cyfnod cyfrifyddu. Fel arfer, eich cyfnod cyfrifyddu yw’ch blwyddyn ariannol, ond mae’n bosibl y bydd gennych ddau gyfnod cyfrifyddu yn ystod y flwyddyn y gwnaethoch sefydlu’ch cwmni (yn agor tudalen Saesneg).
Elw trethadwy dros £1.5 miliwn
Mae’n rhaid i chi dalu’ch Treth Gorfforaeth fesul rhandaliad.
Gwiriwch y rheolau a’r dyddiadau cau:
Talu cosbau Treth Gorfforaeth
Codir cosbau am gyflwyno’n hwyr (yn agor tudalen Saesneg) arnoch os na fyddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth y Cwmni mewn pryd, hyd yn oed os nad oes treth i’w thalu.
Talu cosbau gan ddefnyddio:
-
unrhyw un o’r ffyrdd sydd ar gael i dalu
-
y cyfeirnod talu Treth Gorfforaeth 17 cymeriad ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu y mae’r cosbau’n berthnasol iddo
Bydd eich cyfeirnod talu i’w weld:
-
ar eich ‘hysbysiad i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth’
-
ar unrhyw nodyn atgoffa gan CThEF
-
drwy gyfrif ar-lein CThEF
Dulliau o dalu
Sicrhewch eich bod yn talu Cyllid a Thollau EF (CThEF) erbyn y dyddiad cau. Efallai y bydd yn codi llog arnoch (yn agor tudalen Saesneg) os na fyddwch yn talu mewn pryd. Bydd yn talu llog i chi (yn agor tudalen Saesneg) os byddwch yn talu’ch treth yn gynnar.
Dewiswch y ffordd o dalu sy’n caniatáu digon o amser i’ch taliad glirio.
Ni allwch dalu Treth Gorfforaeth drwy’r post.
Ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf
-
bancio ar-lein neu fancio dros y ffôn drwy Daliadau Cyflymach neu CHAPS
3 diwrnod gwaith
-
Debyd Uniongyrchol (os ydych wedi trefnu un ar gyfer CThEF yn flaenorol)
-
bancio ar-lein neu dros y ffôn drwy Bacs
-
Yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu
5 diwrnod gwaith
- Debyd Uniongyrchol (os nad ydych wedi trefnu un ar gyfer CThEF yn flaenorol)
Os bydd y dyddiad cau ar benwythnos neu ar ŵyl banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn y diwrnod gwaith olaf cyn hynny (oni bai eich bod yn talu drwy Daliadau Cyflymach gan ddefnyddio bancio ar-lein neu dros y ffôn).